top of page

Comisiwn Clip Creadigol




Lawrlwythwch y wybodaeth fel ffeil Word:


Lawrlwythwch y wybodaeth fel PDF:


Beth yw Archif Ddarlledu Cymru?


Archif Ddarlledu Cymru yw'r archif gyntaf o'i bath yn y DU. Mae'n cadw ac yn rhannu rhaglenni teledu a radio o bron i 100 mlynedd o radio, teledu a ffilm yng Nghymru. Mae gan yr Archif glipiau gan:

•     BBC Cymru Wales

•     ITV Cymru Wales

•     S4C

•     Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru.


Mae'r deunydd hwn yn cael ei gadw'n ddiogel, ei droi’n ddigidol, a gellir chwilio amdano ar-lein. Gallwch wylio 1,500 o glipiau o'r archif gartref ar wefan o'r enw Clip Cymru.

Gellir gwylio clipiau hefyd yn y 'Corneli Clip' yr ydym wedi'u sefydlu o amgylch Cymru mewn llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol.


Mae gennym Gorneli Clip yng Nghonwy, Llanrwst, Abertawe, Caernarfon, Caerfyrddin a Chaerdydd, ac mae mwy ohonynt i ddod yn fuan.


Comisiwn Clip Creadigol


Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gweithio gyda Celfyddydau Anabledd Cymru i roi dau gomisiwn o £1000 yr un i greu celf ddigidol newydd.


Dylai'r gwaith celf gael ei ysbrydoli gan Archif Ddarlledu Cymru a bod yn gysylltiedig ag ardal leol yr artist.


Gallwch greu unrhyw fath o gelf ddigidol, e.e. darluniau, cerddoriaeth, barddoniaeth, collages, technoleg ddigidol fel VR, AR ac ati.


Sut i Ymgeisio:


Llenwch y ffurflen gais yma: https://dacymru.fillout.com/CCC24


Dyddiadau Pwysig:


•     Ar agor ar gyfer ceisiadau: 06/02/25

•     Dyddiad Cau Cais: 28/02/25

•     Dyddiad penderfynu: 06/03/25

•     Dyddiad cau'r prosiect: 24/04/25


Hygyrchedd:


Os oes gennych ofynion mynediad, byddwn yn gweithio gyda chi i sicrhau nad oes unrhyw rwystrau i’ch atal rhag gwneud cais neu greu’r comisiwn.

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Instagram
  • Facebook
  • X

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
AM.Pyst.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page