Gweithdy 'Llawenydd Gwnïo â Llaw' Eileen Harrisson yn Galeri
- Mar 4
- 1 min read
Updated: 24 hours ago
Llawenydd Gwnïo â Llaw - Eileen Harrisson
Dydd Llun 16 Mawrth, 2yp - 4yp
Galeri, Caernarfon
Croeso i bawb i'r gweithdy, y rhai sy'n gyfarwydd â defnyddio pwyth fel cyfrwng artistig, yn ogystal â'r rhai heb unrhyw brofiad, gan y byddaf yn egluro popeth yn ystod y gweithdy. Byddaf yn darparu'r holl ddeunyddiau ond os oes gan unrhyw un gylch 8 modfedd i'w ddefnyddio, byddai hyn yn ddefnyddiol. Byddwn yn edrych ar bwythau syml y gellir eu defnyddio i ddehongli unrhyw nifer o destunau a byddwn yn gwnïo rhai o'r rhain yn y gweithdy. Byddaf yn dod ag enghreifftiau o waith gyda mi a hefyd rhai cardiau, cardiau post a chopïau o fy llyfryn 'Gwahoddiad' a fydd ar gael i'w prynu. Byddaf hefyd yn dangos sut y gall gwaith gwnïo greu printiau llwyddiannus.
Ebostiwch post@disabilityarts.cymru i roi gwybod am unrhyw anghenion mynediad.
Archebwch eich lle yma



