top of page

Rhaglen Ddwbl: Aderyn & Perlysiau Sanctaidd Prydain

  • cerys35
  • Jul 23
  • 2 min read

Awdur: Anadlu


Dydd Gwener 25 Gorffennaf 2025 7:00 yh - 9:30 yh

St David's Church Hall, 1 Penrhyn Beach E, Penrhyn Bay, near Llandudno, LL30 3NT


Aderyn & Perlysiau Sanctaidd Prydain


Rhaglen Ddwbl - Rhagolwg o Sioeau sy’n mynd i Ffrinj Gŵyl Caeredin


Gyda Ffion Philips, Ailsa Dixon, Claire Mace


Nos Wener 25ain Gorffennaf 7-9.30yh


Yn Neuadd Eglwys Dewi Sant, 1 Dwyrain Traeth Penrhyn, Bae Penrhyn, ger Llandudno LL30 3NT (mynediad o'r Stryd Glan Y Mor)


Dwy sioe adrodd straeon newydd efo chwedlwragedd o Gymru a’r Alban.


ADERYN - Ar gopa mynydd pell, mae adar yn casglu ar ddwylo hen ŵr mynyddog, dwylo sydd yn llunio ffawd. Mae straeon yn troelli yng nghanol cwmwl o adenydd, yn aros i hedfan i'r byd dynol.


Yn y cynhyrchiad newydd yma gan Harebell Tellers, mae’r chwedlwragedd traddodiadol Ailsa Dixon a Ffion Phillips yn dilyn mytholeg ein hadar ar eu llwybrau hedeg ar draws Prydain hynafol; moroedd, coetiroedd, i mewn ac allan o’r byd hwn a'r byd arall.


Trwy gydblethu'r Gymraeg a Scoteg, cerddoriaeth a straeon mewn awr fyfyriol a hudolus, mae Ailsa a Ffion yn ailfywiogi ac yn ailswyno chwedlau hynafol a hen straeon gwerin.


PERLYSIAU SANCTAIDD PRYDAIN - Ymunwch â Claire Mace am ailadroddiad dwyieithog o stori Olwen, merch y cawr yr oedd ei gwallt yn felynach na'r banadl a’i bochau’n gochach na blodau bysedd y cŵn.


Ble bynnag mae’n cerdded mae’n gadael meillion gwyn o’i hôl. Hi yw arwres “Culhwch ac Olwen” stori o lawysgrifau canoloesol, Y Mabinogion.


Plethir mytholeg, hud a lledrith, llên lysieuol, chwedlau gwerin, storïau’r coed a phlanhigion ynghyd i ddarlunio'i thirwedd. Cafodd y perfformiad chwedleua traddodiadol hwn o’r stori ei ddatblygu diolch i Wobr Esyllt gan Chwedl, rhwydwaith o chwedlwragedd yng Nghymru.


Tocynnau o flaen llaw £10 (£6 consesiynau)


Tocynnau ar y dydd £12 (£8 consesiynau)


Mwy yma.

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
AM.Pyst.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page