top of page
HWB
Newyddion, Digwyddiadau a Chyfleoedd



Llwyfannau Creadigol – Hyfforddiant Hygyrchedd Creadigol i Ddehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain
Mae’r cyfle hwn i gael hyfforddiant proffesiynol, a grëwyd gan Papertrail, ar gyfer Dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (Lefel 6). Boed hyn yn flas cyntaf ar ddehongli llwyfan, neu eich bod yn ddehonglwr profiadol sy’n chwilio am ysbrydoliaeth a datblygiad, nod yr hyfforddiant hwn yw cynyddu eich hyder a’ch gwybodaeth am ddehongli ar gyfer y theatr er mwyn rhoi’r profiad gorau i gynulleidfaoedd byddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.
Jul 20, 2025


COSI & SCRATCH
Mae Pontio a Craidd yn chwilio am waith newydd gan bedwar o artistiaid lleol! Dyma gyfle gyda thâl i ddechrau datblygu gwaith newydd gan artistiaid sydd yn creu gwaith byw (dawns, syrcas, theatr, comedi, cabaret ayyb). Mae hwn yn gyfle i unrhyw artist sy'n creu gwaith byw ar unrhyw adeg yn eu gyrfa.
Jul 20, 2025


Cerddi yn Cwrw:Lleisiau Anabl Caerfyrddin
Achlysur arbennig yw ail ddigwyddiad Cerddi yn Cwrw mis Gorffennaf. Mae nifer o aelodau ein cymuned yn anabl ac mae eu hysgrifennu yn aml yn adlewyrchu'r profiad byw hwnnw. Mae “Lleisiau Anabl Caerfyrddin” yn ddathliad creadigol o'r agwedd honno ar eu hunaniaeth ddiwylliannol.
Jul 9, 2025


Cân Gymraeg newydd gan aelod DAC Frances Abigail Bolley wedi’i rhyddhau ar label ‘Sionci’ Tŷ Cerdd
Cân i nodi parhad AffriCerdd – sef partneriaeth Tŷ Cerdd â’r Eisteddfod Genedlaethol yn cefnogi artistiaid o liw i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Jul 9, 2025


AmCam 2: Galwad agored am 4 ffilm ddogfen am greadigrwydd cymunedol yng Nghymru!
Yn dilyn llwyddiant AmCam, gŵyl ffilm ddigidol gyntaf erioed Am, rydym yn hynod falch o gyhoeddi ail rownd o gyllid tuag at greu pedair rhaglen ddogfen fer arall!
Jul 9, 2025


Ymgynghoriad Creadigol Fy Mywyd Fy Llais
Cyfle i gyfrannu at Gynllun Hawliau Pobl Anabl Llywodraeth Cymru. Ymunwch â Ni a Rhannwch Eich Profiad Byw mewn ffordd Greadigol!
Jul 8, 2025
bottom of page
