top of page
HWB
Newyddion, Digwyddiadau a Chyfleoedd



Gwyl Take a Chance Festival
Dewch draw am benwythnos o gelf a chyfarfyddiadau damweiniol yn Spit and Sawdust. Bydd gŵyl Take a Chance yn ymgorffori siawns ym mhob ffurf, o gynulleidfaoedd yn cymryd rhan mewn digwyddiad celf, i ddod ar draws gweithiau celf ar hap.
Sep 3


Mae Artes Mundi yn Cyflogi: Cynhyrchydd Ymgysylltu
Bydd pob un o’r chwe Chynhyrchydd Ymgysylltu yn gyfrifol am gyflwyno cyfres o ddigwyddiadau, gweithgareddau a chanlyniadau fel y gwelir isod. Fel ffordd o ganfod a strwythuro’r agwedd hon ar ein rhaglenni cyhoeddus cyffredinol, bydd pob Cynhyrchydd Ymgysylltu’n cael ei neilltuo i gynnal ymchwil manwl i un o artistiaid Artes Mundi 11 sydd ar y rhestr fer.
Sep 1


Gweithredu ysbrydoledig i ddiogelu a hyrwyddo lles meddyliol: Cyfle Iechyd Cyhoeddus Cymru
A allai eich creadigrwydd helpu i ledaenu’r Sgwrs Genedlaethol am les meddyliol?
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru am gomisiynu 6 artist i greu cynnwys digidol o ansawdd uchel ar y thema “gweithredu ysbrydoledig i ddiogelu a hyrwyddo lles meddyliol”. Bydd hyn yn cefnogi Hapus – ein rhaglen hirdymor i helpu i ddiogelu a gwella lles meddyliol pobl yng Nghymru.
Sep 1


Cynulliad nesaf Casgleb Meercats
Cynulliad nesaf Mis Medi 8fed 12-2y.p.
Rhwydweithio, Cefnogaeth, Rhannu Eich Celf, Sgwrs Celf Anabledd.
Sep 1


Oren yn y Subway - The Other Room
Mewn partneriaeth ag elusen digartrefedd Cymru The Wallich, bydd 'An Orange in the Subway' yn cael ei pherfformio yn yr awyr agored ym Mharc Mackenzie, Caerdydd. Gyda chast croesi a thîm creadigol o ddefnyddwyr gwasanaeth The Wallich a gweithwyr proffesiynol profiadol, mae 'The Other Room' yn cofleidio ei normal crwydrol newydd gyda'r cynhyrchiad diweddaraf hwn.
Aug 27


Cult Cymru: Gweminar Cerddoriaeth
Ymunwch â'r cyfansoddwr a chynhyrchydd Matthew Whiteside am sesiwn ymarferol ar sut i hybu eich cerddoriaeth; gan gynnwys popeth o hawliau a chynllunio cyllidebau i ddosbarthu digidol. Bydd Matthew yn eich tywys drwy'r broses gyda mewnwelediadau, cyngor, a gwersi a dysgwyd trwy ei brofiadau ef er mwyn eich helpu chi i osgoi problemau cyffredin, er mwyn i chi reoli ac ennill budd o'ch cerddoriaeth chi.
Aug 27
bottom of page
